Gweithdy DPP: Cynrychiolaeth yn y Celfyddydau Gweledol

Dyddiad ac Amser 

Dydd Gwener 30 Ebrill 2021, 10:30 am – 12:00 pm

Cynhelir y sesiwn hon ar Zoom.

Digwyddiad

Mae Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) yn cynnal gweithdy Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) sy’n anelu at gynorthwyo artistiaid i ddeall sut orau i dynnu sylw at eu hunain a’u gwaith. Mae’r digwyddiad hwn yn ymateb uniongyrchol i arolwg diweddaraf VAGW ‘COVID-19 a’r celfyddydau gweledol yng Nghymru’ sy’n canolbwyntio ar un o’r tair prif flaenoriaeth a amlygir. Bydd y gweithdy’n caniatáu unigolion i benderfynu ble a sut orau i leoli eu gwaith.

Drwy fynychu’r digwyddiad hwn byddwch yn gallu:

  • Clywed gan artistiaid, curaduron a rheolwyr lleoliadau ynglŷn â’u profiadau yn y maes.
  • Deall y gwahanol drafodaethau sy’n digwydd rhwng artistiaid a lleoliadau. Sut mae artistiaid yn cyflwyno’u hunain i adeiladau / lleoliadau?
  • Adnabod y gwahanol ofodau a llwyfannau y mae gwaith celf yn gallu cael ei ddangos, gweld a’i werthfawrogi. 
  • Cwestiynu safle eich gwaith a’i berthynas gyda lleoliad neu ofod penodol wrth arddangos – sut mae’r amgylchedd yn cyfrannu at werth celfyddyd?

Bydd y gweithdy’n cynnwys panel o artistiaid, curaduron a rheolwyr lleoliadau sydd â phrofiadau amrywiol o’r maes.

Os oedd yn rhaid i chi sôn am eich ymarfer beth fyddech ch’n ei ddweud?

Ble mae lle eich celfyddyd?

Sut i ymuno

Rydym yn awyddus iawn i groesawu’r ystod eangaf o bobl ledled Cymru i fynychu’r gweithdy DPP hwn

Rydym yn gwahodd yr ystod eangaf o bobl o bob rhanbarth yng Nghymru yn y celfyddydau gan gynnwys (ond nid yn gyfan gwbl) artistiaid gweledol / gwneuthurwyr / technegwyr / ymarferwyr / curaduron / beirniaid ac ysgolheigion  / gweithwyr celf o fewn sefydliadau ar bob lefel.

I archebu eich lle llenwch y ffurflen google hon erbyn canol dydd Iau, 29 Ebrill

Os gwelwch yn dda, nodwch yn eich e-bost os oes gyda chi unrhyw anghenion o ran hygyrchedd – dehongli BSL, capsiynnu,cyfieithu Cymraeg neu iaith arall ayyb. Bydd angen i ni gael gwybod ynglŷn ag unrhyw anghenion erbyn dydd Gwener, 23 Ebrill. Efallai na fyddwn ni’n gallu diwallu eich anghenion oni chawn ni rybudd mewn da bryd.