EGWYL: Cyhoeddiad mentoriaid y Rhaglen Fwrsariaeth a Mentora

Yn rhan o Egwyl, derbyniodd yr artistiaid a ddetholwyd ynghyd â rhai ymgeiswyr, fentoriaeth wedi’i theilwra’n arbennig iddyn nhw. Wrth i’r rhaglen ddod tua’i therfyn, mae VAGW yn falch o gyflwyno’r mentoriaid craff a rhagorol a fu’n rhan o’r cynllun:

Amak Mahmoodian

Ganed Amak yn Shiraz, Iran ac mae hi bellach yn byw ym Mryste. Mae ei gwaith yn cwestiynu syniadau ynghylch hunaniaeth a chartref gan bontio’r gofod rhwng y personol a’r gwleidyddol. Drwy ei siwrnai, mae hi’n archwilio sut mae alltudiaeth a phellter yn effeithio ar y cof, ar freuddwydion, ac ar fywyd bob dydd.

Ar ôl cychwyn ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Gelfyddyd Tehran, yn 2015 cwblhaodd ddoethuriaeth seiliedig ar ymarfer mewn ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru. Wrth weithio gyda delweddau, barddoniaeth ac archifau, mae’n ystyried fframiau telynegol realaeth mewn ffotograffau. Mae Amak wedi arddangos ei gwaith yn eang ac wedi ennill gwobrau niferus.


Libita Sibungu

Ar hyn o bryd mae Libita Sibungu yn byw ac yn gweithio yng ngorllewin Cernyw, lle cafodd ei magu. Yn ferch i rieni o Namibia a Lloegr, fe’i ganed ddiwedd y 1980au yn fuan ar ôl yr arwydd cyntaf o enedigaeth galaeth newydd ac ychydig flynyddoedd cyn annibyniaeth Namibia. Fel artist rhyngddisgyblaethol mae Sibungu yn ymdrin ag ysgrifennu, darlunio, perfformans, ffotograffiaeth, print a sain er mwyn adeiladu amgylcheddau sy’n gweu naratifau ôl-drefidigaethol ar gyfer adeiladu gosodweithiau a threfniannau barddonol. Drwy gydweithredu, mae ymchwil yn cael ei ehangu yn brofiad ar y cyd ag eraill, wedi’i ysbrydoli gan archifau byw, cartograffeg sonig a ffuglen ddamcaniaethol.

Enillodd Sibungu wobr Future Award yr Arts Foundation yn 2002, ac mae hi wedi cyflwyno gwaith yn y Temple Bar Gallery, Yr Iwerddon, a Sonsbeek, Yr Iseldiroedd (2021); Somerset House, (DG), a Cabaret Voltaire, Zurich (2020). Cyflwynwyd arddangosfa unigol a chorff cyfredol o waith Sibungu ‘Quantum Ghost’ gyda Gasworks, a Spike Island, (DG) yn 2019.


Shenece Oretha

Mae Shenece Oretha yn artist amlddisgyblaethol yn Llundain ac yn archwilio’r potensial o harneisio llais a sain. Drwy osodwaith, perfformans, print, cerflunwaith, sain, gweithdai a barddoniaeth mae hi’n helaethu ac yn dathlu gwrando a sain fel ymarfer ymgorfforedig ar y cyd ag eraill. Mae ei gwaith unigol yn cynnwys at/Tribute, Institute Of Contemporary Art, Llundain (2022), Ah So It Go, Ah No So It Go, Go So!, Cubitt Gallery, Llundain (2022), Called to Respond, Cell Project Space, Llundain, (2020), TESTING GROUNDS, Cafe OTO Project Space, Llundain, (2019). Mae ei harddangosfeydd grŵp yn cynwys SURVEY II, G39, Caerdydd, Jerwood Arts, Llundain a Site Gallery, Sheffield (2021-22), Cinders, Sinuous and Supple, Les Urbaines, Lausanne, Y Swisdir (2019), and PRAISE N PAY IT/ PULL UP, COME INTO THE RISE, South London Gallery, Llundain, (2018).


Zarina Muhammad / The White Pube

The White Pube yw hunaniaeth gydweithredol Gabrielle de la Puente a Zarina Muhammad ac o dan yr enw hwn maen nhw’n cyhoeddi adolygiadau a thraethodau ynglŷn â chelf, gêmau fideo a bwyd. Gwelwch thewhitepube.com neu @thewhitepube ar Twitter ac Instagram.

Marlo De Lara

Ganed yr artist Marlo De Lara yn Baltimore, Maryland, UDA. Derbyniodd PhD o Ysgol Celfyddyd Gain, Hanes Celf ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Leeds ac MA mewn Astudiaethau Seicogymdeithasol yng Nghanolfan Astudiaethau Seicdreiddiol Essex. Mae ei hymarfer yn ymwneud â pherfformans sain, gwrthdyniad gweledol a ffilm. Yn blentyn i fudwyr Ffilipino y brain drain, mae ymarfer/ymchwil ffeministaidd sosiogymdeithasol diamwys De Lara yn mynegi barn ynghylch amodau byd eang cyfoes. Mae ei hymchwil yn ymwneud â ffeministiaeth, cynrychiolaeth poblogaethau ymylol, yn enwedig o fewn cerddoriaeth a sain, gwaith creadigol fel gweithred wleidyddol. Mae hi’n cynnal gweithdai yn ymwneud ag ymarfer sain ac offer, cydweithfeydd DIY a straeon fel posibilrwydd gwleidyddol, cynhyrchiol drwy greu. Mae De Lara hefyd yn aelod gweithredol o garfan Sonic Cyberfeminisms ac yn sylfaenydd cydweithfa gelfyddyd arbrofol ffeministaidd Ladyz in Noyz.

marlodelara.squarespace.com
marlodelara.academia.edu


Mae prosiect Egwyl wedi bod yn gam allweddol i VAGW a hefyd i holl ecoleg celf Cymru – a thu hwnt. Mae wedi amlygu bod angen cymaint mwy o agoriadau a thrawslineddu i’w gyflawni a sut mae angen symud a newid ffyrdd strwythuredig o weithio gan weithredwyr sefydliadol a’r rheiny nad ydyn nhw’n sefydliadol. Y gobaith yw bod y cam hwn wedi gwneud gwahaniaeth i raddau a bydd modd adeiladu arno ar gyfer cenedlaethau presennol a’r dyfodol o artistiaid a gweithwyr celf yng Nghymru.